We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Rhyfeddod ar Foreuddydd​/​Pont Seion​/​Dawns Balthasar

from Plygeiniwch! by The Gentle Good

/

about

******************Scroll down for English************************

Trac 3 - Rhyfeddod ar Foreuddyd

Mae rhan cyntaf y gan yma wedi ei seilio ar y carol Plygain 'Rhyfeddod ar Foreuddydd'. Fy nghyfnsoddiadau i ydy'r ail a'r trydydd rhannau, a chafwyd eu hysbrydoli gan y newidiadau anghonfensiynol mewn ton ac amser yn y darn cyntaf.

Mae'r trac yma i'w glywed yn archif Amgueddfa Sain Ffagan, tu allan i Gaerdydd. Dilynwch y linc isod i wrando iddo.

www.amgueddfacymru.ac.uk/1555/?id=11

Track 3 - A Marvel at Daybreak

The first part of this instrumental is based on the Plygain carol 'Rhyfeddod ar Foreuddydd' (A Marvel at Daybreak). The second and third movements are my own compositions, inspired by the unusual shifts in tone and time in the first.

This track can be found in the archive at St Fagans Museum, outside Cardiff. Follow the link below to hear the recordings.

www.museumwales.ac.uk/1555/?id=11

lyrics

******************Scroll down for English************************

Rhyfeddod ar foreuddydd fe gaed gwaredydd gwiw,
Ym Methlem ymddangosodd, a Christ yr Arglwydd yw
Mynegwyd i'r bugeiliaid mor rhyfedd oedd y drych
Cael Tad o Dragwyddoldeb mewn preseb lle pôr ych.
Gadawodd sedd ei dad a gwynfyd Nefol Wlad
A dod mor isel, lle pôr anifel, o ryfedd gariad rhad.
Y doethion wiwgu iaith i geisio'r lesu ddaeth,
Caent lewyrch seren gain yn y dwyren i'w harwen ar eu taith.

Mynegwyd i'r bugeiliaid yn awr newyddion da,
Fe gafwyd balm Gilead i'n clwyfau, a'n gwellha.
Disgynnodd o'r uchelder i'r byd ar lafar lef:
"Tangnefedd ar y ddaear! Gogoniant i Dduw Nef!"
Fe ddeuodd yn y cnawd ein Brenin gwiw a'n Brawd,
Heb grud na pharlwr fe ddaeth ein Crewr o'r Wyryf yn dylawd.
Addewid Eden gaeth, i'r byd mewn pryd y daeth
I ddatod hudol waith y Diafol, oedd diben mawr ei daith.

Daeth Iesu i bregethu a gwneuthur gwyrthiau i'r byd,
A hwythau heb ei gredu na rhoddi arno'u bryd.
Y meirw a gyfodai, i'r byddar clyw fe rodd,
A hwythau a'i gwrthododd, nid ydoedd wrth eu bodd.
Cadd dynnu blew ei gern a hirion gwysau i('w) gefn,
Bu'n chwysu dafnau yn Gethsemanau – pwy draetha'i oes i ben? –
Ond Jiwdas, gwas y god, ffalst gusan oedd ei nod,
Gwerth deg ar hugain oedd y fargen am yr Anfeidrol Fod.
Rhyfeddod Ar Foreuddydd

Daeth Iesu i Galfaria, a Seimon gariai'i Groes,
Ei Hunan rodd i'r lladdfa am feiau mawr ein hoes;
A'r Tad oedd yno'n gweiddi, "Y cleddyf! Tyrd ymlân!",
A tharo'r Gŵr sydd inni yn gyfaill diwahân.
Fe d'wyllai'r wiwlon wawr pan ydoedd Iesu Mawr
O dan yr hoelion a gwaed ei galon yn llifo ar y llawr.
I'w newydd fedd fe aeth; rhag iddo godi i('w) daith
'Roedd sawdwyr Cesar â'u sêl yn gryfder, a llengoedd uffern faith.

Ond bore'r trydydd diwrnod – mor hyfryd i'w goffáu –
Y Cadarn ddaeth o'i feddrod, a'r lluoedd ffodd i'w ffau.
Yn awr mae agoriadau (y)nglŷn wrth ei wregys E',
I'r Nefoedd fe ddyrchafodd, mae'n Llywydd ar y lle.
Mae'n dadlau yno â'i wa(e)d, i'r dua' gael glanhad:
A ddêl dan guro ei ddwyfron ato a gweiddi "Maddau'n rhad!"
Mae'r ffordd yn rhydd, heb len, hyd entrych Nefoedd wen,
A'r wledd yn barod, a gwadd i'n ddyfod: down iddi, oll, Amen.

A MARVEL AT DAYBREAK

A marvel at daybreak came the worthy Saviour,
He appeared in Bethlehem and He is Christ the Lord.
The sheperds were told how strange was the sight:
Finding the Eternal Father in an oxen's manger.
He left his father's throne and the bliss of heaven's land
And came so low, where an animal feeds, from amazingly gracious love.
The Wise Men of fair worthy tongue came to seek Jesus,
They received the light of a fair star in the east to guide them on their way.

The angels proclaimed the birth of the Divine One, The Godhead in Manhood wearing man's nature.
He descended from heaven to earth to a vocal proclamation:
"Peace on earth! Glory to the God of Heaven!"
Our worthy King and Brother came here in the flesh,
Without crib or parlour our Creator came humbly from the Virgin.
The firm promise of Eden arrived in the world in time
To destroy the enticing whole work of the Devil, which was th greatbr/>purpose of his journey.

credits

from Plygeiniwch!, track released January 12, 2014
Gareth Bonello - guitar

license

all rights reserved

tags

about

The Gentle Good Cardiff, UK

Cantor o Gaerdydd sy'n canu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Chware'r gitar acwstig yn bennaf.

Songwriter from Cardiff, singing in Welsh and English. Primarily plays acoustic guitar.

Cantautor de Cardiff que canta en galés y inglés. Principalmente toca la guitarra acústica.
... more

shows

contact / help

Contact The Gentle Good

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code

Report this track or account

If you like The Gentle Good, you may also like: